Emyr DelmeTHOMASYn dawel yn Ysbyty Treforus yng nghwmni ei deulu ddydd Mawrth Ebrill 8fed 2025 yn 54 mlwydd oed hunodd Emyr (Nantremenyn, Pontsian gynt). Mab annwyl Llew a'r diweddar Joyce, llys fab Sarah. Brawd, brawd yng nghyfraith ac wncwl arbennig iawn i Wendy, Marc, Gethin, Rhodri a Medi. Brawd hoffus Jamie, Heledd ac Aled, nai a chefnder triw. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Sant Ioan, Pontsian (SA44 4TY) ddydd Mawrth Ebrill 22ain 2025 am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion os dymunir er cof am Emyr tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffon - 01545 590254
Keep me informed of updates